SL(6)707 - Rheoliadau Adeiladu (Gweithdrefnau Adeiladau Risg Uwch) (Cymru) 2025

Cefndir a Diben

Gwneir y Rheoliadau hyn o dan bwerau a roddwyd gan Ddeddf Adeiladu 1984, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022. Maent yn gymwys yn benodol i Gymru ac yn rhan o gyfres o ddiwygiadau wedi'u hanelu at wella diogelwch adeiladau yn dilyn trasiedi Tŵr Grenfell.

Prif nod y Rheoliadau yw creu proses ar gyfer cymeradwyo rheolaeth adeiladu yn benodol ar gyfer adeiladau risg uwch. 

Mae'r Rheoliadau'n cyflwyno system strwythuredig ar gyfer rheoli newid, gyda’r nod o sicrhau y caiff unrhyw newidiadau dylunio neu adeiladu eu hasesu'n briodol, eu dogfennu, a'u cymeradwyo, gan gynnal uniondeb y dyluniad gwreiddiol a'i nodweddion diogelwch. Mae’r Rheoliadau hefyd yn ei gwneud yn ofynnol creu'r “llinyn aur” ar gyfer gwybodaeth adeiladu, sef cofnod digidol sy'n ategu'r broses o wneud penderfyniadau a thryloywder drwy gydol oes yr adeilad, a'i gynnal yn barhaus.

Mae'r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol rhoi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau diogelwch ac yn pennu prosesau ar gyfer gwneud cais am dystysgrifau cwblhau’n llawn a thystysgrifau cwblhau’n rhannol ac ar gyfer dyroddi’r tystysgrifau hyn. Darperir systemau ar gyfer unioni gwaith heb ei awdurdodi, gan helpu i sicrhau bod datblygiadau nad ydynt yn cydymffurfio yn gweithredu'n unol â'r gofynion cyfreithiol.

Mae'r Rheoliadau yn rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru wneud penderfyniadau a gwrando apeliadau o dan adran 30A o Ddeddf Adeiladu 1984.

Gweithdrefn

Negyddol

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd.  Caiff y Senedd annilysu’r Rheoliadau o fewn 40 niwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i’r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Nodwyd y 16 pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “ceisydd”, mae’n nodi bod y diffiniad yn gymwys “oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall”. Byddai'n gliriach ac yn fwy defnyddiol i'r darllenydd pe bai'n nodi ble yn y Rheoliadau hyn y mae ystyr gwahanol i "ceisydd" yn gymwys.

2.    Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Yn rheoliad 2(1), diffinnir y term “gwybodaeth am ddiogelwch tân” gyda’r ystyr a roddir gan reoliad 38(9) o’r Rheoliadau hyn. Fodd bynnag, mae rheoliad 2(1) yn rhoi'r ystyr hwnnw i'r term ar gyfer y Rheoliadau cyfan ond mae'r diffiniad yn rheoliad 38(9) yn nodi bod gan y term yr ystyr hwnnw “Yn y rheoliad hwn” yn unig. Yn ogystal, defnyddir y term hefyd yn rheoliad 37(5) o'r Rheoliadau hyn. Felly, nid yw'n glir ble mae diffiniad y term "gwybodaeth am ddiogelwch tân" yn gymwys yn y Rheoliadau hyn.

3.    Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Yn rheoliad 7(13), yn y testun Cymraeg, diffinnir y ffurfiau gramadegol gwahanol “a bennir” a “penodedig” ill dwy. Fodd bynnag, yn rheoliad 24(11), dim ond y term “penodedig” a ddiffinnir er bod “a bennir” a “penodedig” hefyd yn cael eu defnyddio yn nhestun Cymraeg rheoliad 24. Felly, mae'r testun Cymraeg yn anghyson o ran a yw’r holl ffurfiau gramadegol a ddefnyddiwyd i fynegi term diffiniedig wedi’u nodi neu ai dim ond un ffurf ramadegol o'r term a nodir.

4.    Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Yn rheoliad 9(2) a (3), mae amrywiad rhwng y defnydd o “diwrnod” a’r term diffiniedig “diwrnod gwaith” wrth ddisgrifio cyfnod o amser. Yn rheoliad 9(2) mae'n cyfeirio at “O leiaf 5 niwrnod gwaith” ond yn rheoliad 9(3), mae'n cyfeirio at “O fewn 5 niwrnod”. Mae'r disgrifiadau gwahanol hyn hefyd yn codi wrth ddisgrifio'r un cyfnod o amser yn rheoliad 17(2) a (3). A yw'r amrywiad rhwng y defnydd o "diwrnod" a "diwrnod gwaith" yn fwriadol yn y disgrifiadau hyn?

5.    Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn.

Yn rheoliad 12(1)(e)(i), mae gwahaniaeth rhwng y testun Cymraeg a’r testun Saesneg. Mae’r testun Saesneg yn nodi “details of the intended use of each storey” ond mae’r testun Cymraeg yn nodi “fanylion am ddefnydd arfaethedig pob llawr”. Yn hyn o beth, mae'r testun Cymraeg hefyd yn anghyson â'r darpariaethau eraill yn y Rheoliadau hyn lle defnyddiwyd “bwriadedig” i fynegi “intended” yn yr un cyd-destun, ond defnyddiwyd “arfaethedig” i fynegi “proposed”.

6.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.

Yn rheoliad 15(1)(a), mae'n cyfeirio at asesiad y cleient yn rheoliad 12(1)(d)(viii)(bb). Fodd bynnag, nid oes paragraff (viii)(bb) yn is-baragraff 12(1)(d). A ddylai rheoliad 15(1)(a) gyfeirio at ddarpariaeth wahanol, er enghraifft, rheoliad 12(1)(e)(viii)(bb)?

7.    Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Yn rheoliad 18(2), ar y dechrau mae'n nodi "Cyn y gellir cyflawni unrhyw newid a reolaethir, rhaid i'r cleient sicrhau...". Fodd bynnag, mae'n ymddangos bod y gair “gellir” yn cyfeirio at ganiatâd cyfreithiol yn hytrach na chyfeirio at bosibilrwydd yn unig. Yn yr achos hwnnw, dylid defnyddio “caniateir” yn hytrach na “gellir”.

8.    Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Yn rheoliad 27(4)(i), disgrifir y cyfeiriad fel “(ac eithrio paragraff (bb))”. A ddylai hyn gyfeirio at “(paragraff (ii)(bb))”?

9.    Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn.

Yn rheoliad 31(1)(b)(ii), mae gwahaniaeth rhwng y testun Cymraeg a’r testun Saesneg. Mae’r testun Saesneg yn nodi “have access to the facility” ond mae’r testun Cymraeg yn nodi “gael mynediad at y cyfleuster electronig”. Yn hyn o beth, mae'r testun Cymraeg yn gywir oherwydd bod “cyfleuster electronig” yn derm diffiniedig a nodir yn rheoliad 31(13).

10.Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Yn rheoliad 31(13), mae'n nodi bod y ddau derm "cyfleuster electronig" a "gwybodaeth llinyn aur" wedi'u diffinio gydag ystyr "Yn y Rheoliadau hyn". Fodd bynnag, dim ond yn rheoliad 31 y defnyddir y term “cyfleuster electronig”, felly dylid ei gyflwyno fel un sydd ag ystyr “Yn y rheoliad hwn”. Ond defnyddir y term “gwybodaeth llinyn aur” hefyd mewn rheoliadau eraill fel rheoliadau 27 a 37, ac Atodlen 1. Felly, dylid cynnwys y diffiniad o “gwybodaeth llinyn aur” yn rheoliad 2(1) sef y ddarpariaeth ddehongli gyffredinol ar gyfer termau a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn.

11.Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Yn rheoliad 32(2), mae’n cyfeirio at "y digwyddiadau neu’r sefyllfaoedd y dylai’r person sy’n adrodd adrodd amdanynt". Gan fod y gair “dylai” i bob golwg yn cyfeirio at rwymedigaeth gyfreithiol a roddir ar y person sy'n adrodd, a ddylid dweud “y mae’n rhaid i’r person” yn lle “y dylai’r person”?

12.Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Yn rheoliad 35(1), mae'n nodi bod gan y diffiniadau ystyr "Yn rheoliadau 32 i 34" o'r Rheoliadau hyn. Fodd bynnag, defnyddir y term “cyfnod adeiladu” hefyd yn rheoliad 31 o’r Rheoliadau hyn ond ni chaiff ei ddefnyddio o gwbl yn rheoliad 34. Felly, nid yw'n glir ble mae diffiniad y term hwn yn gymwys yn y Rheoliadau hyn. Yn ogystal, dim ond yn rheoliad 32 y defnyddir y termau “gwaith dylunio ARU” a “person sy’n adrodd” yn hytrach na rheoliadau “32 i 34”. Felly, efallai y byddai'n gliriach pe bai’r ddau ddiffiniad hyn yn ymddangos mewn darpariaeth ddehongli ar wahân ar gyfer rheoliad 32.

13.Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Mae Rheoliad 47(5) yn nodi bod yn rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r apelydd am y canlyniad “o fewn 13 o wythnosau sy’n dechrau â’r diwrnod drannoeth y diwrnod y mae’r person yn rhoi hysbysiad o dan baragraff (2)”. Fodd bynnag, mae paragraff (2) yn amlinellu'r personau a gaiff apelio yn erbyn y penderfyniad ym mharagraff (1). A ddylai rheoliad 47(5) gyfeirio at baragraff gwahanol, er enghraifft, paragraff (3), yn hytrach na pharagraff (2)?

14.Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Yn rheoliad 49(3), gellid dadlau nad yw'n amlwg i’r darllenydd y byddai termau sydd wedi'u diffinio at ddibenion Rhan 6 gyfan i'w cael yn rheoliad 49(3). Efallai y byddai'n fwy defnyddiol i'r darllenydd pe bai'r termau hynny wedi'u diffinio mewn darpariaeth ddehongli ar wahân ar gyfer Rhan 6. Yn ogystal, nid yw'r diffiniadau wedi'u rhestru yn nhrefn yr wyddor yn nhestun Saesneg rheoliad 49(3).

15.Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Yn Atodlen 1, ym mharagraff 5(1)(d), cyfeirir at “Atodlen 1 i Reoliadau Adeiladu 2010”. Fodd bynnag, diffiniwyd Rheoliadau Adeiladu 2010 fel “Rheoliadau 2010” gan reoliad 2(1) o’r Rheoliadau hyn. Felly, dylid bod wedi defnyddio'r term diffiniedig “Rheoliadau 2010” yn y cyfeiriad hwn yn Atodlen 1.

16.Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Yn Atodlen 2, ym mharagraff 3, diffinnir y term “gwasanaeth sefydlog adeilad” ar gyfer Atodlen 2. Fodd bynnag, defnyddir y term hefyd mewn darpariaethau eraill fel rheoliadau 37(5), 38(7), a 46(12) o'r Rheoliadau hyn. Felly, nid yw'n glir a fwriedir i'r term "gwasanaeth sefydlog adeilad" fod â’r un ystyr yn y darpariaethau eraill hyn o'r Rheoliadau hefyd.

Rhinweddau: craffu    

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn cysylltiad â’r offeryn hwn.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

21 Ionawr 2026